![[Undeb Opening]](book2a.gif)
![[Welsh About Undeb Page]](Wundeb.gif)
![[Pen panorama]](penorama~1.gif)
Tref fechan yng Ngogledd Cymru ym Mhrydain yw Penmaenmawr, ac fel yn y rhan fwyaf o drefi,
mae yma amrywiaeth o eglwysi a chapeli Cristnogol sydd yn darparu ar gyfer anghenion y trigolion.
Tros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o eglwysi a chapeli wedi dod at ei gilydd er mwyn adlewyrchu
ysbryd cariad Cristnogol yn gywirach ac i ehangu’r Efengyl yn fwy effeithiol yn y rhan hon o Gymru.
Fel rhan o’r symudiad cyffredinol tuag at weithredu ar y cyd, mae rhai arweinwyr a gweinidogion yr
eglwysi wedi ffurfio “Fraternal” sydd yn hybu trafodaeth ar bynciau o ddiddordeb i aelodau’r
holl eglwysi ac i’w galluogi i gynllunio hefo’i gilydd ar gyfer gweithgareddau ac addoliad yn y dyfodol.
Mae'r gair Undeb yn golygu’r union beth yma, sef dod at ein gilydd yn un. Yma ym Mhenmaenmawr
’rydym wedi darganfod ein hundeb yn Iesu Grist sydd yn ein galluogi i weithio ar y cyd heb gyfaddawdu
ein hargyhoeddiadau tyfn na cholli ein traddodiadau gwahanol.
Bydd y wefan hon, gobeithio, yn ein galluogi i ymestyn allan at Gristnogion eraill fel na fydd
arnynt ofn ymuno ag enwadau Cristnogol eraill a gweithio dros Iesu Grist.
![[Welsh Home Page]](Wundeb.gif)