[Undeb Opening]
[Welsh Home Page]


Eglwys Unedig Sant Paul


Gorffennodd canrif, oedd wedi dechrau mewn storm, mewn dathliad yn yr wyl flodau a drefnwyd am ganmlwyddiant Eglwys Fethodistaidd Saesneg Sant Paul, Penmaenmawr.

Bu Cymdeithas Fethodistaidd mewn bod ers rai blynyddoedd pan chwalwyd ei heglwys haearn fechan mewn storm ym 1890, ond er mwyn iddi gael ei hail-adeiladu, aeth y 15 o aelodau ati i gynllunio eglwys â 300 o seti.   Adlewyrchodd y maint hwnnw gynnydd niferoedd y rhai oedd yn treulio eu gwyliau mewn cyrchfan a wnaethpwyd yn ffasiynol gan Gladstone a Fictoriaid enwog eraill.   Adroddodd y Weekly News eiriau hyn y Parch. Ddr. Stephenson yng ngwasanaeth gosod y sylfaen: “People must think of the future and prepare for it” (“Y mae'n rhaid i bobl ystyried y dyfodol a pharatoi amdano”).

Adeiladwyd hi mewn cerrig lleol a chael ei chwblháu ar Orffennaf 22, 1891, ar ôl chwe mis yn unig, am gost o £2,600 na dalwyd hi’n ôl yn gyflawn am flynyddoedd, er gwaethaf rhoddion lawer.   Mae’r tu mewn presennol, ar thema “Goleuni’r Byd”, yn dyddiadu o 1965, gyda murlun o waith Eric Burchall o Ysgol Gelf Bolton.   Ymunodd yr eglwys â’r Eglwys Unedig Ddiwygiedig ar Fedi 20ain, 1991, ac y mae bellach yn edrych ymlaen i ganrif arall, â geiriau’r Dr. Stephenson mewn cof.

Mae Eglwys Sant Paul yn perthyn i Rwp Gogarth o’r Eglwys Unedig Ddiwygiedig ond, gan mai Methodistiaid yw mwyafrif y gynulleidfa, mae’n bur naturiol i ni deimlo’n hytrach o lawer yn ran o Gylchdaith Bangor a Chaergybi yr Eglwys Fethodistaidd.   Mae gan Weinidog Arolygol y Gylchdaith rhan yn y gwaith gweinidogol.   ’Rydym yn gweithredu ein heglwys ar ddull y Methodistiaid: hynny yw, mae gennym stiwardiaid yn hytrach na flaenoriaid, ac ymwelwyr bugeiliol sy’n ymgymryd gwaith gweinyddu’r eglwys.

Hyd yn oed fel gynulleidfa unedig yr rydym yn eglwys fechan, ond y mae ’na ynddi ysbryd gwych ac mae’r ymwelwyr bugeiliol yn gofalu’n ddiwyd am ei haelodau a’i chefnogwyr.   Y mae Urdd y Merched yn denu rhai o du mewn y gymuned yn ogystal ag aelodau’r eglwys, am ei chyfarfodydd wythnosol.

Mae’r eglwysi Cymraeg a’r rhai Saesneg yn cydweithio’n glôs ym Mhenmaenmawr, ac y mae’r eglwysi Anglicanaidd a Chatholig Rhufeinig a Chanolfan Gristnogol annibynnol “Oasis” yn awyddus dros ben i ddatblygu a meithrin cydweithrediad eciwmenaidd.






Dydd Iau, 17eg Ionawr 2008
2.00pm   Cyfarfod Pwyllgor yr Eglwysi Ynghyd: Eglwys y Berth
==========

Dydd Sul, 20fed Ionawr 2008
3.30yp   Gwasanaeth am Undod Cristnogol: Eglwys y Berth
==========




[Welsh Home Page]

[Undeb Opening]