![[Oasis I.G.O. Page]](Wigo.gif)
![[IGO Logo]](igologo.gif)
Arwyddair IGO yw “Cydnabod yr Eglwys gyfan ... estyn allan i’r byd cyfan.”
Anenwadol yw ei dull o weithredu, felly mae pawb yn groeso ai mewn enwad “cydnabyddedig”
ai beidio. Efengylu byd-eang yw ei nod.
Y mae IGO yn Gyfeillach fyd-eang o Weinidogaethau a Gweinidogion a Gweithwyr Cristnogol o bob math ac Eiriolwyr. Rhydd IGO gydnabyddiaeth swyddogol i ordeinio gan Dduw.
Y mae IGO yn Weinidogaeth o Weddïo a Chalonogi i’r holl aelodaeth ac i Gorff Crist
yn gyffredinol, gan ddarparu Dolen Argyfyngus 24-awr o Weddi (01492 622473).
Ymgyrch yw IGO i galonogi undod o fewn yr Eglwys, gan hybu gweithgareddau efengylu,
Cynadleddau Gweledigaeth Gristnogol a seminarau Beiblaidd gartref a thramor.
IGO ydyw ei haelodau ... Ceisiwn ddarparu eu rheidiau a’u hanghenion.
Rhwydwaith yw IGO o Weinidogion a Gweinidogaethau Cristnogol ... gwyr a gwragedd Duw
o’r rheng flaen, ai weinidogion mewn eglwysi enwadol ai beidio. Fodd bynnag, mae’n rhaid fod gan
bob aelod unigol safle mewn eglwys neu gyfeillach y mae wedi’i ymroddi’n gyflawn iddi.
Mae Cenhadaeth Ryngwladol yr Efengyl yn gyfeillach ofalgar ledled y byd, yn cydgysylltu
eglwysi, cenhadon, gweithwyr Cristnogol ac eiriolwyr o gefndir lawer.
![[IGO Page]](Wigo.gif)