[Undeb Opening]
[St Seiriol's Page]


Eglwys Seiriol Sant


Adeiladwyd Eglwys Seiriol Sant ar anogaeth William Ewart Gladstone, y prif weinidog mawr Fictoraidd, a dreuliodd ei wyliau droeon yn Nwygyfylchi.   Fe roes ef y gloch denor hardd ym 1868.   Gosodwyd y garreg sylfaen ym 1867, a dathlwyd y canmlwyddiant ym 1967.   Y mae wedi ei hadeiladu yn null yr Adfywiad Gothig, a mae hefyd newydd ei rhestru fel adeilad rhestredig.   Alfred Waterhouse, y Fictoriad amlwg, oedd y pensaer.   Mae yna nifer o ffenestri llyw cain.

Sefydlodd Seiriol, sant o'r chweched ganrif, gell ar Ynys Seiriol, ac am y rheswm hwnnw gelwir yr ynys honno droeon yn Priestholm (Ynys yr Offeiriad).   Symudodd yn hwyrach i ran nesaf Môn, sef Penmon.   Dywedir iddo hefyd wedi codi cell rhywle (ond ni wyddys yn union ymhle) yn yr ardal y mae Penmaenmawr ynddi heddiw, y deuai yno droeon.


[St. Seiriol's Church]
Eglwys Seiriol Sant, Penmaenmawr, wedi ei llifoleuo.

GWASANAETHAU A GWEITHGAREDDAU ARFEROL

Gweler amrywiaethau i’r drefn hon o dan “BETH SY’N MYND YMLAEN”
ym mhanel “CYHOEDDIADAU” ar dudalen Yr Eglwys Yng Nghymru


GWASANAETHAU SUL

Rhestrir pob gwasanaeth yn yr iaith y cynhelir ef ynddi,
ond os yn ddwyieithog, yn Gymraeg ar y dudalen hon, ac yn Saesneg ar y dudalen Saesneg

Sul 1af
10.30am   Sung Eucharist

2il Sul
8.00am   Holy Communion
10.30am   Matins
6.00pm   Evening Prayer

3ydd Sul
10.30am   Sung Eucharist

4ydd Sul
8.00am   Holy Communion
10.30am   Family Service
6.00pm   Evening Prayer

5ed Sul
10.30yb   Gwasanaeth Dwyieithog Unedig Plwyfol, fel y cyhoeddir


GWASANAETHAU CANOL-WYTHNOSOL O GWMPAS Y PLWYF

Dydd Mercher
10.40   Guild of St. Raphael Litany—Prayers for the Sick:   St. Gwynin's
11.00am   Holy Communion:   St Gwynin's

Dyddiau Saint Llythyren Coch
7.30pm   Communion:   St Seiriol's


[St Seiriol's Page]

[Undeb Opening]