Plwyfi Catholig Cyfunol
Cyffordd Llandudno, Llanrwst, Conwy, Penmaenmawr a Llanfairfechan
yn
Esgobaeth Wrecsam yng Ngogledd Cymru

Hanes Fer o’r Eglwys Gatholig
yn Ardal Conwy


Y mae gan yr Eglwys Gatholig wreiddiau dwfn sy’n ymestyn yn ôl cyn sylfaenu Abaty Sistersaidd Aberconwy ym 1186.   Pan ddechreuodd Iorwerth I o Loegr adeiladu ei gastell yng Nghonwy ym 1284, symudodd y mynaich allan i Faenan, ymhellach i fyny Dyffryn Conwy.   Ar yr adeg hwnnw, aeth eglwys y mynachdy yn Eglwys y Santes Fair, eglwys blwyfol Conwy.

Ar ôl basio Deddf Ryddfreinio’r Catholigion ym 1829, dechreuwyd adeiladu eglwysi ledled y wlad.   Yn hwyr yn yr 1890au, adeiladwyd eglwysi yn Llandudno a Bae Colwyn.

Penmaenmawr a Llanfairfechan

Cyn gyrraedd y Brodyr Ffransisgaidd Capwsinaidd, bu offeiriaid o Fae Colwyn yn dathlu’r Offeren yma.   Nid oedd y mynaich, fodd bynnag, yn ddieithr i Benmaenmawr am eu bod wedi bod yn dathlu’r Offeren yn nhy Mrs. Alicia Cubitt.   Trwy ei haelioni hi y prynwyd adeilad, oedd gynt yn gapel i’r Methodistiaid Calfinaidd, ym 1906; addaswyd ef at ddefnydd Catholig ym 1907.   Aeth hon yn eglwys Our Lady of the Rosary (Ein Harglwyddes o’r Rosari) ym Mhenmaenmawr.   Parhawyd ddefnyddio’r eglwys hon tan 30ain Mehefin 2002.

Ym 1953 rhoddwyd darn o dir i’r mynaich ac ar y tir hwn yr adeiladwyd eglwys bresennol St. Mary of the Angels (Santes Fair o’r Angylion) yn Llanfairfechan.

Fe gadwodd y Capwsiniaid gymuned o frodyr ym Mhenmaenmawr tan 1999.   Ar y pryd hwnnw, penododd Esgobaeth Wrecsam Offeiriad mewn Gofal i’r Plwyf.   Yn 2001, penododd Esgob Wrecsam y Tad Patrick Lonsdale OFM fel Offeiriad y Plwyf.   Ar ddiwedd mis Mehefin 2002 fe gaewyd yr eglwys ym Mhenmaenmawr, a daeth Plwyf Penmaenmawr a Llanfairfechan yn blwyf cysylltiol gyda rai Cyffordd Llandudno, Conwy a Llanrwst.   Ers hynny, fe ddethlir Offeren y Sul ar noswaith Sadwrn yn yr eglwys yn Llanfairfechan.

Conwy a Chyffordd Llandudno

Cyn adeiladu eglwys Conwy, dathlodd y brodyr Capwsinaidd yr Offeren mewn twr ym mur y dref oedd yn edrych dros y porthladd.   Gyda chymorth cymynrodd oddi wrth Emma Houlgrave, a fu farw ym 1916, fe agorwyd eglwys St Michael and All Angels (Mihangel Sant a’r Holl Angylion) yn hwyrach yn y flwyddyn honno.

Y Tad Ivor Daniel, emynydd Cymraeg ei iaith a anwyd yng Nghanada, oedd yr offeiriad anfynachol cyntaf yng Nghonwy.   Bu fyw yn yr ‘Erskine Arms’ tan i’r Eglwys gaffael ‘St. Michael’s House’ (Ty Mihangel Sant) fel dy offeiriad.   Un o’r offeiriaid olynol y plwyf oedd y Tad Patrick McCullogh a oedd yn gyfrifol am adeiladu Ogofdy Lourdes, Safleoedd y Groes a’r Calfari.   Lluniwyd y Calfari a Safleoedd y Groes ym Milan yn unswydd ar gyfer Eglwys Fihangel Sant.

Fe brynodd y Tad McCullogh yr hen Neuadd Ymarfer (‘Drill Hall’) yn Mount Pleasant am £100 i fod yn ganolfan blwyfol.   Prynodd hefyd dir yng Nghyffordd Llandudno er mwyn adeiladu ysgol Gatholig.   Dyma safle presennol Eglwys The Most Holy Family (Y Sancteiddiolaf Deulu).

Yr oedd y Tad William Cubley yn gyfrifol am adeiladu eglwys The Most Holy Family (Y Sancteiddiolaf Deulu) a agorwyd ym 1969.   Cyn adeiladu’r eglwys hon, fe ddaeth trigolion ochr arall yr afon i’r Offeren yn Nhy Albini, Cyffordd Llandudno.   Rhan o Goleg y Santes Fair oedd hwn.

Trefriw, Llanrwst and Betws y Coed

Darparwyd anghenion poblogaeth Gatholig Dyffryn Conwy yn gyntaf gan Eglwys Mair a Gwenfrewi yn Nhrefriw.   Gwasanaethwyd Llanrwst a Betws y Coed o’r fan honno.   Pan, ym 1956, agorwyd adeilad newydd, Eglwys y Bugail Da, yn Llanrwst, bu fyw’r offeiriad yn Llanrwst a gwasanaethwyd y ddwy ganolfan arall o Lanrwst.   Fe ddathlwyd yr Offeren yn Nhrefriw tan 1995 pan gaewyd yr eglwys yno.

Ar hyn o bryd, dethlir yr Offeren bob Sul yn Llanrwst, ac yn yr haf yn Eglwys Mair y Coed.

Cydnabyddaf gyda diolch y cyfraniadau a wnaethpwyd i’r wybodaeth ar y dudalen hon gan lyfr o waith Margaret Williams Catholicism in Conwy, 1186 - 1993 a chan y Tad John Cavanagh, OFM Cap., cyn-Offeiriad Plwyfol Penmaenmawr.