![[St Gwynin's Page]](Wgwynin.gif)
Eglwys y Plwyf yw Gwynin Sant. Adeiladwyd ym 1889, y pedwerydd adeilad, o’r lleiaf, ar y safle hynafol iawn hon. Y pensaer oedd Bruce Vaughan. Gwnaethpwyd seddau’r eglwys bresennol o drawstiau tô adeilad 1760; gellir weld carreg sylfaen yr eglwys honno, wedi’i chadw a’i hail-osod ar wal festri’r un bresennol. Cynhaliwyd canmlwyddiant adeiladu ac agor yr eglwys bresennol ym 1989: cafodd hi ei hailwampio’n drwyadl am yr achlysur pwysig hwnnw.
Bu fyw Gwynin Sant yn y 7fed gantrif. Yn ôl hen chwedl, ’roedd yn fab i ryw dywysog anfad, Helyg wrth ei enw; 31fed Rhagfyr yw ei Wylmabsant.
Codwyd hen eglwys Gwynin Sant ym 1760, a thynnwyd hi i lawr er mwyn hwyluso adeiladu’r un bresennol ar ei safle: yr oedd yn llai nag eglwys ein dyddiau ni. Yn ei thro, cymerodd hi le eglwys o’r 16eg ganrif, y mae yn yr ardal dau farn am ei siâp hi: yr un, ei bod hi ar siâp L, a chanddi gorff ac un transept deheuol; y llall, ei bod hi ar ffurf groes.
Dyma’r unig lun y gwyddys amdano o adeilad yr 16eg ganrif. Fe’i welir, ar y chwith yn y llun, o’r de-orllewin; gwelir wal ddeheuol a phen gorllewinol yr eglwys, gyda chwt cloch, yn glir. Mae’r ffaith nad oes yna transept yn y golwg yn ategu’r barn bod yr eglwys ar siâp L, gyda thransept ar yr ochr bell, ac am hynny allan o'r golwg.
![[Saint Gwynin]](Wgwynin.gif)